+44 (0) 1492 540002
aledma1@outlook.com

News

Llythyr Bugeiliol at Deulu Asaph oddi wrth Esgob Llanelwy

CYFLAWNDER BYWYD
Llythyr Bugeiliol at Deulu Asaph oddi wrth Esgob Llanelwy
Mawrth 2021

Rwy’n meddwl fy mod wedi sôn o’r blaen mai’r adnod o’r Beibl rwy’n dal i ddod yn ôl ati fel fy ffefryn yw Ioan, Pennod 10, adnod 10. “Yr wyf fi wedi dod er mwyn i ddynion gael bywyd, a’i gael yn ei holl gyflawnder.” I mi, mae’r daith o ffydd gyda Duw yn gallu dod â llawenydd, gwydnwch, heddwch, gobaith a nerth. Mae’n flaendal yn y bywyd hwn o dynged dragwyddol, sy’n dod nid o fy ffyddlondeb i (sy’n eithaf bratiog) ond gan waith hael Duw ynof i. Does dim rhaid i ni gael hyn a hyn o farciau mewn daioni er mwyn cyrraedd y nefoedd – “ond rhoi yn rhad y mae Duw, rhoi bywyd tragwyddol yng Nghrist Iesu ein Harglwydd” (Rhufeiniaid 6.23). Wedi dileu’r ddyled o bechod a dinistr trwy’i farwolaeth a’i atgyfodiad, mae Iesu’n agor y ffordd i ni gofleidio bywyd tragwyddol trwy ffydd. Ond mae yna ragor, fodd bynnag, oherwydd rydym ni wedi’n galw i ddarganfod llawnder y bywyd hwn nid yn unig yn y nefoedd, ond yn y bywyd hwn, i roi enw arall iddo, yw sancteiddrwydd.

Ysgrifennodd St Irenaeus, un o athrawon mawr cynharaf yr Eglwys yn y cenedlaethau ar ôl yr apostolion: “Oherwydd mae gogoniant Duw yn fod dynol byw; ac mae bywyd dyn yn cynnwys gweld Duw.” Roedd yn sôn am Iesu, a hefyd am y ffordd y mae cadw Duw yn ein golwg mewn bywyd y byddwn ni pob amser yn barod i newid “o ogoniant i ogoniant” (2 Corinthiaid 3.18). Ysgrifennodd Carl Jung, y seico-dadansoddwr o’r ugeinfed ganrif, “Mae’r hwn sy’n edrych y tu allan, yn breuddwydio; mae’r hwn sy’n edrych y tu mewn yn deffro.”, a’r gwir yma – y dylem ni fod yn agored i Dduw yn ein bywydau, yn ein calonnau, i gychwyn ar yr hyn sydd wedi’i galw y daith fewnol – sy’n rhoi genedigaeth i’r bywyd tragwyddol mae Iesu’n sôn amdano. “Yr wyt yn cadw mewn heddwch perffaith y sawl sydd â’i feddylfryd arnat.” (Eseia 26:3)

Rwyf wedi bod yn darllen llythyrau Nelson Mandela’n ddiweddar, ac mae un darn sy’n taro tant gyda mi’n arbennig:

“Wrth farnu’n cynnydd fel unigolion, rydym yn tueddu i ganolbwyntio ar ffactorau allanol megis lle cymdeithasol rhywun, dylanwad a phoblogrwydd, cyfoeth a safon o addysg. Mae’n rhain, wrth gwrs, yn bwysig…. Ond gallai’r ffactorau mewnol fod hyd yn oed yn fwy hanfodol wrth asesu datblygiad un fel bod dynol. Gonestrwydd, di-dwylledd, symlrwydd, gostyngeiddrwydd, haelioni pur, diffyg balchder, parodrwydd i wasanaethu eraill – rhinweddau sydd yn hawdd o fewn cyrraedd pob enaid – yw’r sylfaen o fywyd ysbrydol rhywun. Mae datblygiad mewn materion o’r natur hwn y tu hwnt i amgyffred person heb hunanholi o ddifrif, heb adnabod eich hunain, eich gwendidau a chamgymeriadau. … Peidiwch byth ag anghofio mai sant yw pechadur sy’n dal i ymdrechu.”

Mae’n fy atgoffa o un o’m hoff storïau yng ngwaith C S Lewis, The Great Divorce. Yn y llyfr, mae’r arwr yn breuddwydio ei fod yn cael ei gario i fyny at giât y nefoedd. Tra mae yno, mae gorymdaith fawr yn ymgasglu, yr holl angylion a’r thrwmpedau a’r corau’n canu. Yn y canol, merch ddisglair a brenhinol, y Forwyn Fair ei hunan yn ôl rhagdybiaeth yr awdur. Wrth holi angel wrth ei ymyl yn y dorf, mae’n cael yr ateb: “Na, ei henw hi yw Sarah Smith, ac mae’n bwy ar Golder’s Green…. hi yw un o’r rhai mawr yn y nefoedd.” Mae’n troi allan fod Sarah wedi dod y person yr oedd Duw eisiau iddi fod oherwydd ei bod yn caniatau i Dduw weithio trwyddi – daeth yn ffigwr mamol i’r holl blant mewn angen, daeth yn ganolbwynt yn ei chymuned am ei charedigrwydd a chariad, bu’n byw ei bywyd i’r eithaf a chafodd ei gweddnewid gan lawenydd.

Mae yna adnodd arall rwy’n meddwl amdano y Llyfr y proffwyd Eseciel (36.26), ble mae Duw yn sôn am ei fwriad dros bobl Dduw. “Rhof i chwi galon newydd, a bydd ysbryd newydd ynoch; tynnaf allan ohonoch y galon garreg, a rhof i chwi galon gig.”

Nid yw mawredd yn Nheyrnas Nef yn dibynnu ar eich cyflawniadau yn y byd, mae’n dibynnu y byddwch chi’n tyfu i fod y person hwnnw o gariad a sancteiddrwydd mae Duw yn ei fwriadu ar eich cyfer chi. Mae’r Grawys yn wir yn Wanwyn yr Enaid, oherwydd mae’n galw arnom i agor ein hunain i nerth gweddnewidiol Duw yn ein calonnau, i gymryd y daith fewnol.

Visit Us On TwitterVisit Us On Facebook