+44 (0) 1492 540002
aledma1@outlook.com

News

Llythyr Bugeiliol Esgob Gregory 200611 Bishop Gregory’s Pastoral Letter

Scroll down for the Bishops Pastoral letter in English

Dirnad y Corff

Llythyr Bugeiliol at Deulu Asaph oddi wrth Esgob Gregory
Dydd Iau 11 Mehefin 2020, Gŵyl Corff Crist

Roeddwn i mewn dau feddwl yr wythnos hon ynghylch fy llythyr bugeiliol. Roeddwn gymaint eisiau ysgrifennu atoch ynghylch y Drindod Sanctaidd, ond, mae heddiw hefyd yn ddydd gŵyl yng nghalendr yr Eglwys, gŵyl nad yw’n derbyn fawr o sylw erbyn hyn, Corpus Christi, neu fel rydym ni Anglicanwyr yng Nghymru’n hoffi ei galw Diolchgarwch am y Cymun Bendigaid. Felly, bydd yn rhaid i’r Drindod aros am wythnos.

Pan ysgrifennodd Sant Paul at Eglwys Corinth ynghylch eu dathliadau Ewcharistaidd, roedd yn siarad yn blaen ac yn eithaf llym ynghylch yr hyn oedd yn digwydd. “Bydded i ddyn ei holi ei hunan, ac felly bwyta o’r bara ac yfed o’r cwpan. Oherwydd y mae’r sawl sydd yn bwyta ac yn yfed, os nad yw’n dirnad y corff, yn bwyta ac yn yfed barn arno’i hun.” (1 Cor 11.28,29) Beth yw hyn am “ddirnad y Corff”? Rwy’n credu fod Paul yn golygu dau beth.

Yn gyntaf, er bod y Cymun yn bwydo’r rhai sy’n ei dderbyn, nid y bwriad oedd y byddai hynny’n weithred unigol. Mewn rhai enwadau eglwysig, mae gwin y Cymun yn cael ei rannu mewn cwpanau bach, unigol, ac yn nyddiau cynnar coronafeirws, awgrymwyd efallai y dylai’r Anglicanwyr hefyd rannu’r Ewcharist fel hyn. Roeddwn i yn erbyn hynny, oherwydd, i mi, mae’r symbolaeth o bawb yn dod at ein gilydd ac yn rhannu’r un cwpan yn pwysleisio fod gennym un Arglwydd ac Iachawdwr, ein bod yn yfed o’r un ffynnon o iachawdwriaeth a agorodd i ni ar Galfari, a bod Cymun yn cael ei rannu, nid gyda Duw yn unig, ond gyda’n gilydd. Rydym wedi’n clymu gyda’n gilydd mewn un Corff wrth dderbyn Cymun. Felly, dirnad y Corff yw cydnabod y ffaith hon, cydnabod, wrth dderbyn Cymun gyda’n gilydd bod ein perthynas ni ein hunain wedi newid; yn yr Arglwydd, rydym ni’n frawd a chwaer, yn ddi droi’n ôl ac yn dragwyddol, oherwydd ein bod wedi’n prynu gan Grist. Dyma un o’r rhesymau pam, er mor chwith yw colli’r Cymun, nad wyf yn meddwl ei bod yn iawn ei rannu’n ddarnau bychan, nac yn iawn ein bod ni’n gosod ein bara a’n gwin ein hunain o flaen y sgrîn. Mae ei fwyta a’i yfed fel petai’n rhywbeth preifat, mai rhodd i ni fel unigolion ydyw, yn anwybyddu’r agwedd gorfforaethol o’r hyn rydym yn ei wneud.

Yn ail, mae Paul yn gwbl glir nad bara a gwin cyffredin sy’n cael ei rannu wrth gymryd bara a gwin yr Ewcharist. “Cwpan y fendith yr ydym ni’n ei fendithio, onid cydgyfranogiad o waed Crist ydyw? A’r bara yr ydym yn ei dorri, onid cydgyfranogiad o gorff Crist ydyw?” (1 Cor 10.16) Mae Christnogion wedi dadlau ac wedi tywallt gwaed ers canrifoedd, ynghylch beth yn union yw’r newid sy’n digwydd i fara a gwin y Cymun yn yr Ewcharist, ac efallai fod llawer ohonom wedi dysgu cerdd fechan y Frenhines Elisabeth I sy’n ceisio cau pen y mwdl ar y drafodaeth. “His was the word that spake it, he took the bread and brake it, and what his word doth make it, that I believe and take it.” I mi, mae’r ateb yn tardis Dr Who, sydd, fel ryw’n meddwl fod y rhan fwyaf o bobl yn gwybod, yn fwy y tu mewn na’r tu allan. Y tu allan, does dim newid i’w weld yn y bara a’r gwin. Ond trwy air a gorchymyn Crist, y tu mewn, mae holl drysorlys gras Duw yno, ac yn cael ei gynnig i ni fel rhodd Duw. Mae methu â dirnad y Corff yn methu â dirnad presenoldeb gwirioneddol Duw yn yr elfennau ewcharistaidd hefyd.

Mae Cristnogion Catholig yn tueddu i ddisgrifio’r Ewcharist fel pinacl addoliad Cristnogol. Mae hynny nid yn unig oherwydd ein bod wrth ddathlu’r Ewcharist yn ufuddhau i orchymyn penodol Crist, ond oherwydd mai hon yw’r sagrafen fawr lle mae’r Cristion yn cael maeth drwy rodd gras Duw. Mae rhai eglwysi’n gweld eu hunain yn bennaf fel Eglwysi’r Gair, ble mae’r Beibl yn cael ei bregethu’n ddeddfol; mae eraill yn disgrifio’u hunain fel eglwysi sagrafennol, ble mae’r cyfan o’r pwyslais ar ddathlu’r Ewcharist yn aml. Mae Anglicanwyr, fel arfer, yn gosod eu hunain yn y canol fel Eglwys y Gair a’r Sagrafen. Yn wreiddiol, ystyr y gair Lladin “sacramentum” oedd rhywbeth a oedd wedi’i gysegru i Dduw, ac wedi’i ildio’n gyfan gwbl i’r dwyfol. Fodd bynnag, fel llawer o bethau, newidiodd Cristnogion ychydig ar ystyr y gair, daeth Sagrafen yn weithred wedi’i neilltuo ar gyfer Duw a, thrwyddi, mae Duw yn rhoi ei hun i ni. Rydym ni’n rhoi bara a gwin i Dduw; mae Duw yn eu trawsnewid, ac yn eu rhoi’n ôl i ni, i’n bwydo gyda’i ras a’i nerth, i’n galluogi i fyw mewn ffydd. Rwy’n edrych ymlaen at y diwrnod pan fyddwn yn gallu cyfranogi yn yr Ewcharist unwaith eto.

Fodd bynnag, mae’r cydsyniad o sagrafen yn mynd ymhellach. Mae cariad Duw yn dragwyddol ac yn hael ac mae’i ras, ei agwedd gariadus, angerddol, nerthol tuag atom, yn llifo trwy’r greadigaeth. Bod yn Gristion sagrafennol yw gweld gras Duw o’n cwmpas, yn cael ei ffrydio atom ni a thrwom ni mewn myrdd o ffyrdd. Wrth i ni gofio heddiw sut mae Crist yn rhoi ei hun i ni yn y “sagrafen fendigedig o gorff a gwaed Crist”, gadewch i ni agor ein hunain i fod yn sianel o’i gariad – i gymydog, i ffrind, i aelod o’r teulu – hyd yn oed o fewn cyfyngiadau pellter cymdeithasol, a dirnad fod Duw wrth ei waith mewn mwy o ffyrdd nag y gallwn ni fyth ei amgyffred.

 

Discerning the Body

A Pastoral Letter to the Teulu Asaph from Bishop Gregory
Thursday, 11th June, 2020, the Feast of Corpus Christi
I was torn this week about the focus of my pastoral letter. I so much wanted to write to you about the Holy Trinity, yet today is an often overlooked feast day in the Church’s calendar, Corpus Christi, or as we Anglicans in Wales like to call it, Thanksgiving for Holy Communion. So the Trinity will have to wait a week.

When St Paul wrote to the Corinthian Church about their celebrations of the Eucharist, he spoke very directly and sternly about what was going on. “Let a person examine himself, then, and so eat of the bread and drink of the cup. For anyone who eats and drinks without discerning the body eats and drinks judgement on himself.” (1 Cor 11.28,29) What is this about “discerning the Body”? I believe that Paul meant two things.

First, although Communion feeds those who receive it, it is not intended as an individual thing. In some church denominations, the wine of Communion is distributed in tiny individual cups, and in the early days of coronavirus, it was suggested that perhaps Anglicans should share the Eucharist in such a way. I resisted that suggestion, because for me, the symbolism of us coming together and sharing from one cup emphasises that we have the one Lord and Saviour, that we drink from the same fountain of salvation that he opened for us on Calvary, and that Communion is shared not just with God, but with each other. We are bound together into one Body as we receive Communion. To discern the Body is therefore to recognise this fact, to recognise that once we take Communion together our own relationship is changed; in the Lord, we are sister and brother, irrevocably and eternally, because we are bought by Christ. This is one of the reasons why, although I am sure that we miss Communion sorely, I do not think it right to parcel it out, or place our own bread and wine in front of the screen. To eat and drink as if it is a private thing, a gift for us alone, is to fail to discern the corporate aspect of what we are doing.

Secondly, Paul is quite clear that partaking of the bread and wine of the Eucharist is not just a sharing of ordinary bread and wine. “The cup of blessing that we bless, is it not a participation in the blood of Christ? The bread that we break, is it not a participation in the body of Christ?” (1 Cor 10.16) Christians have argued for centuries, and blood has been spilt, about the nature of the change that undergoes the bread and wine of the Communion in the Eucharist, and many of us may have learned the little poem of Queen Elizabeth I that tried to short-circuit the debate: “His was the word that spake it, he took the bread and brake it, and what his word doth make it, that I believe and take it.” For me, the answer is in Dr Who’s tardis, which I think most people will know is bigger on the inside. Outwardly, we see no change in the bread and the wine. By Christ’s word and command, however, on the inside, the whole treasury of God’s grace becomes present to be offered to us as God’s gift. To fail to discern the Body is to fail to recognise that God is really present in the eucharistic elements.

Catholic Christians tend to describe the Eucharist as the summit of Christian worship. This is not just because when we celebrate the Eucharist we are obeying Christ’s explicit command, but because this is the great sacrament by which the Christian is nourished by the gift of God’s grace. Some churches see themselves primarily Churches of the Word, where the Bible is faithfully preached; others describe themselves as sacramental churches, where the entire emphasis is on the frequent celebration of the Eucharist. Anglicans, classically, place themselves in the middle as a Church of Word and Sacrament. Originally, the Latin word “sacramentum” meant something that was dedicated to God, and entirely surrendered to the divine. However, like many things, Christians nudged the meaning of the word, so that a Sacrament is an action set apart for God, but through which God gives himself to us. We give bread and wine to God; God transforms it, and gives it back to us, to feed us with his grace and strength, to enable us to live in faith. I look forward to the day when we may share in the Eucharist once again.

 

Visit Us On TwitterVisit Us On Facebook