+44 (0) 1492 540002
aledma1@outlook.com

News

Llythyr Bugeiliol Ionawr 2021 January Pastoral Letter

DILYN FI
At aelodau Teulu Asaph
Llythyr Bugeiliol ar gyfer y Flwyddyn Newydd, Ionawr 2021
Rwy’n siŵr ein bod yn gyfarwydd gyda hanes y deuddeg disgybl, sy’n rhan annatod o hanes Iesu yn yr Efengylau. Cyn sicred â bod Eira Wen yn perthyn i’r Saith Corrach, mae Iesu hefyd yn perthyn i’r deuddeg, os nad yw hynny’n ddywediad braidd yn ddifrïol. Yr hyn sydd mor gyfareddol yn yr Efengylau yw criw mor frith yw’r disgyblion. Maen nhw’n gwneud llanastr o bethau, yn camddeall, maen nhw’n amau, maen nhw’n methu credu na dilyn. Ond, dros gyfnod gweinidogaeth Iesu, maen nhw’n cael eu ffurfio’n apostolion ac nid yw Iesu’n ofni, adeg ei ddyrchafael, gosod yr holl fusnes o Efengyl Iachawdwriaeth a’r Eglwys yn eu dwylo.

Cefais fy herio cyn y Nadolig pan ddywedodd rhywun wrthyf nad oedd yn meddwl fod Cristnogion heddiw yn ystyried eu hunain yn ddisgyblion ac nad oedd pobl yn deall beth oedd disgybl. Mae’n enw sy’n perthyn i’r Beibl, ond digon o waith ei fod yn ddisgrifiad cyfoes o ffydd, meddai.

I mi, cwestiwn sylfaenol o ffydd yw a ydw i’n ddisgybl. Nid ymarfer damcaniaethol o’r meddwl yw ffydd, mae sut y mae’n effeithio ar fy mywyd pob dydd. Mae disgybl yn un sy’n dysgu: mae’r Gymraeg yn gliriach, mae’r un gair ‘disgybl’ yn golygu’r ddau air Saesneg ‘disciple’ a ‘pupil’. Bod yn Gristion yw cymryd eich bywyd yn eich dwylo a dilyn Iesu. Roedd ‘argyfwng’ disgyblaeth i’w weld pan alwodd Iesu’r deuddeg – yn ddirybudd – o’u gwaith yn pysgota neu’n casglu trethu neu’n gwleidydda. Mae’n ymddangos ac yn gwahodd (neu, efallai, yn “gorchymyn”.) Ac maen nhw’n ei ganlyn, maen nhw’n gadael eu gwaith, yn gadael eu teuluoedd ac yn cychwyn ar daith pen draw iddi, ac eto, maen nhw, mewn gwirionedd, roedden nhw wedi cyrraedd gartref. Mae’r efengylau hyd yn oed yn sôn wrthym am un achlysur pan ddywedodd rhywun “na”: uchelwr ifanc, cyfoethog, nad oedd yn gallu diosg breintiau ei gyfoeth (Marc: 10.17-27).

Ond, mae arna i ofn, nid ein galw i aros yn ein hunfan y mae Iesu, nid i ddweud ein credoau dan deimlad ac, fel arall, i fyw ein bywydau yn ôl ein harfer. Mae’n ein galw i gychwyn ar daith, i ffwrdd o’r cyfarwydd, i ddod yn fwy nag yr ydym ni, i dyfu yn yr ysbryd, yn fwy sanctaidd mewn bywyd, yn gariadus mewn gwasanaeth. Nid yw ychwaith yn ei gwneud hyn yn hawdd i ni, “Os myn neb ddod ar fy ôl i,” meddai yn Luc 9:23, “rhaid iddo ymwadu ag ef ei hun a chodi ei groes bob dydd a’m canlyn i.”

A yw hyn yn codi ofn arnom ni? A oedd derbyn bedydd neu fedydd esgob yn y gorffennol yn ddigon fel na fyddai raid i ni dalu sylw i’r alwad sy’n dod heddiw neu yfory, i fynd i rywle anghyfarwydd ac i ddysgu rhywbeth newydd am ystyr bywyd mewn gwirionedd? Dyma beth yw bod yn Gristion: dysgu beth sydd gan Dduw ar ein cyfer ni a’i ddilyn, bod yn ddisgybl. Doedd hi ddim yn hawdd i’r disgyblion ddilyn Iesu, yn wir, mae’n dweud yn un man yn yr Efengyl yn ôl Ioan fod dysgeidiaeth Iesu’n gofyn cymaint nes bod llawer o bobl yn rhoi’r gorau iddi ac yn gadael. (Ioan pennod 6, yn benodol a.66 ff) Mae Iesu’n gorfod troi at y deuddeg a dweud: “Ydych chi i gyd yn gadael hefyd?” Yr hen Seimon Pedr sy’n ymateb y tro yma: “Ble arall allen ni fynd?” meddai, ‘Ti wy’r un gyda’r geiriau sy’n rhoi bywyd tragwyddol.”

A dyna’r addewid – dilyn Iesu, mynd ar y daith annisgwyl, darganfod cyfoeth bywyd nad oes ei debyg, y tu hwnt i fendith. Fel y dywedodd John Bunyan yn yr ail ganrif ar bymtheg “A fynno ddewrder gwir, o deued yma. Mae un o ddeil ei dir ar law a hindda. Ni all temtasiwn gref ei ddigalonni ef i ado llwybrau’r nef, y gwir bererin.” Pererin dilynwr, disgybl. Ydych chi’n ddisgybl? Alla i ddim meddwl am well galwedigaeth, nac am daith fwy cyffrous yn 2021, na chodi, diosg y syrthni neu’r anfodlonrwydd a mynd trwy ddrws bywyd, edrych at Iesu, sy’n ymestyn ei law, a dweud wrtho: “Dyma fi, a ble bynnag y byddi di’n arwain, byddaf i’n dilyn.”

                                           FOLLOW ME
To the members of the Family of St Asaph
A Pastoral Letter for the New Year, January 2021
We’re familiar, I suspect, with the story of the twelve disciples, who are an integral part of the story of Jesus in the Gospels. As sure as Snow White belongs with the Seven Dwarfs, so Jesus belongs with the twelve, if that isn’t too trivialising a thing to say. What is so fascinating in the Gospels is what a motley band the disciples are. They make a mess of things, they misunderstand, they question, they fail to believe and to follow. Over the course of the ministry of Jesus, however, they are forged into apostles, and Jesus is not afraid at his ascension to put the whole business of the Gospel of Salvation and the Church into their hands.

I was challenged before Christmas when someone said to me that they didn’t think that Christians today thought of themselves as disciples, and that people didn’t understand what a disciple was. It was a name which belonged in the Bible, but was hardly a contemporary description of faith, they said.

For me, the fundamental question of faith is whether I am a disciple. Faith is not an abstract exercise of the mind, it is how it affects my daily life. A disciple is one who learns: it is clearer in the Welsh, where disciple and pupil are the same word: disgybl. To be a Christian is to lay one’s life on the line, and to follow Jesus. We see the “crisis” of discipleship when Jesus calls the twelve – peremptorily – from their fishing or their tax collection or their political activism. He just turns up, it appears, and issues the invitation (we might be better saying “command”.) And they go with him, they leave their work, they leave their families, they set out on a journey from which, to tell the truth, they never return, and yet they come truly home. The gospels even tell us about one occasion when someone said “no”: a rich young aristocrat, who just couldn’t tear himself away from the privileges of his wealth (Mark. 10.17-27).

Jesus, I’m afraid, doesn’t call us to stay where we are, in the sense of saying our creeds with meaning, but otherwise going about our lives. He calls us to set out on a journey, away from the familiar, to become larger than we are, greater in spirit, holier in life, loving in service. Nor does he make it easy, “If anyone does want to come after me,” he says in Luke 9.23, “they must deny themselves, take up their cross daily, and so follow me.”

Are we frightened by this? Was it enough to be baptised or confirmed in the past, so that we need not heed the call that comes today or tomorrow, to go somewhere we don’t expect and to learn something new about the real meaning of life? This is what it is to be a Christian: to learn what God has in store for us and to follow it, to be a disciple. The disciples didn’t find following Jesus easy, and indeed, the Gospel according to John tells us that on one occasion Jesus’ teaching was so demanding that a lot of people gave up, and left. (John chapter 6, particularly v.66 ff) Jesus has to turn to the twelve, and say: “Are you lot off as well?” It is good old Simon Peter who replies on this occasion: “Where else could we go?”, he says, “You are the one who has the words which give eternal life.”

And that’s the promise – to follow Jesus, to go on the unexpected journey, is to discover the riches of a life beyond compare, beyond blessing. “He who would true valour see, let him come hither,” wrote John Bunyan in the seventeenth century. “One here will constant be, come wind, come weather. There’s no discouragement shall make him once relent his first avowed intent: to be a pilgrim.” Pilgrim follower, disciple. Are you a disciple? I can think of no better vocation, no more exciting journey in 2021 than to get up, shake off the lethargy or the disgruntlement, and to go through the door of life, and look to Jesus, who stretches his hand towards us, and for us to say to him: “Here I am, and where you lead, I will follow.”

Visit Us On TwitterVisit Us On Facebook