+44 (0) 1492 540002
aledma1@outlook.com

News

ONID YW DUW WEDI DEWIS Y TLODION? Llythyr Bugeiliol ar gyfer Teulu Asaph, 13 Mai 2020 Oddi wrth Esgob Gregory

Ydych chi wedi sylwi? Fe’m trawodd yn ddiweddar fod Prydain wedi gwneud dewis rhyfeddol. Rydyn ni yn wir wedi dewis gosod y rhai mwyaf bregus yng nghanol ein cymdeithas. Roedd yna sôn am ychydig am “imiwnedd gyr”, o adael i Covid-19 gael y ffrwyn ar ei war a heintio cymaint o bobl â phosibl, byddai’r rhan fwyaf yn goroesi a hefyd byddai’r rhan fwyaf o’r boblogaeth yn magu imiwnedd. Dyna pryd y sylweddolon ni beth fyddai’r gost, ac fe ddewison ni, mewn gwirionedd, gwneud y rhai mwyaf bregus y rhai mwyaf pwysig a dewis cyfyngu ar ein symudiadau ni ein hunain i’w gwarchod nhw. Iawn, dydy beth wnaethon ni ddim yn berffaith; roedd y Llywodraeth yn ara deg i ddechrau, cafodd cartrefi gofal eu hesgeuluso’n drychinebus a bu llawer iawn o bobl farw, pob un yn golled fawr i’w ffrindiau a’i berthnasau. Ond, ar y cyfan, rydyn ni wedi cadw at y cyfyngiadau ar symud ac wedi cydnabod fod y rhai sydd yn y perygl mwyaf angen y rhodd o’n gwarchodaeth. Rydyn ni wedi dewis gosod ein bywydau, sydd eisoes yn fregus, yn uwch na chyfoeth a chyflawniad personol.

Yna, y proffesiwn rydyn ni’n rhoi’r clod mwyaf iddo yw gofalu: rydym yn curo dwylo drostyn y gofalwyr bob nos Iau, rydyn ni’n canolbwyntio ar eu pryderon a’u hanghenion, rydyn ni’n cydnabod ac yn clodfori’r gwaith y maen nhw’n ei wneud dros gymdeithas. Rydyn ni’n rhoi rhywfaint o flaenoriaeth iddyn nhw yn ein meddyliau ac yn ein sefydliadau. Fel cymdeithas, rydyn ni’n canolbwyntio ar werthoedd megis caredigrwydd, haelioni a thrugaredd ac rwy’n amheus iawn a oes yna lawer o amgylchiadau eraill pan fyddai dyn canmlwydd oed yn gallu codi dros £30 miliwn ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd drwy gerdded o gwmpas ei ardd.

Ar ôl Covid, byddwn yn ail afael mewn bywyd yn y gymuned ac rwy’n credu bod Duw yn ein galw i beidio ag anghofio’r gwersi rydyn ni fel cymdeithas wedi’u dysgu yn ystod yr argyfwng – mai’r tlodion a’r bregus yw’r rhai a ddylai fod yn flaenllaw ym meddyliau ein cymdeithas a bod y rhai sy’n gofalu ac yn iachau ymysg y galwedigaethau a’r proffesiynau pwysicaf.

Rwy’n cael fy atgoffa am yr Eglwys gynnar. Pan gymerodd Iago, brawd yr Arglwydd, arweinyddiaeth yr Eglwys, ysgrifennodd at y Cristnogion cynnar ynghylch y ffordd yr oedd bywyd yr Eglwys yn datblygu gan rybuddio na ddylai’r Eglwys dueddu i ochri gyda’r cyfoethog a’r grymus. Wrth iddyn nhw ddechrau addoli fel Cristnogion, roedd yn demtasiwn clodfori’r bobl oedd yn dod ag arian, pŵer a dylanwad i’r Eglwys. “Clywch, fy mrodyr annwyl”, meddai, “Oni ddewisodd Duw y rhai sy’n dlawd yng ngolwg y byd i fod yn gyfoethog mewn ffydd ac yn etifeddion y deyrnas a addawodd ef i’r rhai sydd yn ei garu? (Iago 2.5) Roedd Iago’n dadlau dros werth pob plentyn Duw ac yn erbyn trin yn well y rhai a oedd yn dal allweddi dylanwad. Mae’r cydraddoldeb radical hwnnw bob tro yn rhyfeddu’r byd pan fo’r Eglwys wedi gallu gwireddu’r weledigaeth honno a dyma’r math o gymdeithas y dylai Cristnogion frwydro amdani unwaith y bydd y cyfyngiadau symud yn cael eu codi. Un ai Francis yn y drydedd ganrif ar ddeg neu’r Fam Theresa yn yr ugeinfed, rydyn ni wedi edmygu eu hesiampl, hyd yn oed pan fyddwn ni’n ei led anwybyddu wrth gymryd ein penderfyniadau ni ein hunain. Dyma ein cyfle i ddweud “Edrychwch, rydym eisoes wedi newid. Beth am gadw at hynny”, ac ystyried sut y gallai ochri gyda’r rhai mewn angen a’r rhai sy’n gofalu effeithio ar y dyfodol.

Allwn ni ddim anghofio popeth a mynd yn ôl i sut yr oedd pethau. Rydyn ni wedi dioddef, rydyn ni wedi dysgu, rydyn ni wedi newid ein blaenoriaethau. Pan oeddwn i’n ifanc, roedd yna ddetholiad o “The Rime of the Ancient Mariner” gan Samuel Taylor Coleridge ar glawr cefn fy nghomig bob wythnos. Roedd yn fy niflasu’n llwyr. Ond, rwy’n cofio, yn y diwedd, fod yr adroddwr yn mynd i ffwrdd “yn ddyn tristach ond yn ddyn doethach”. Efallai bydd y byd ar ôl-Covid yn teimlo’n fwy trist ac yn fwy bregus. A fyddwn yn ddoethach ar ôl beth rydyn ni wedi’i ddysgu? Yng ngeiriau Iesu ei hun, “Yn wir, rwy’n dweud wrthych, yn gymaint ag ichwi ei wneud i un o’r lleiaf o’r rhain, fy mrodyr, i mi y gwnaethoch.” (Mathew 25.40)

Mae’n rhaid i mi ddiolch, fel bob tro, i’r rhai sy’n gwneud cymaint yn ein cymdeithas, ac ym mywyd yr Eglwys, i’n cynnal ac i ofalu amdanom. Bydded i Dduw fendithio pob un ohonoch gyda nerth, gwydnwch a gobaith.

Visit Us On TwitterVisit Us On Facebook